|
Cyswllt
i Erddi Bodnant ar Wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae gardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Modnant mewn
safiad de orllewinol ar dir terasog uwch ben Afon Conwy gyda
golygfeydd godidog ar draws y dyffryn tuag at ysblander mynyddoedd
Eryri.
Yn cael
ei gydnabod fel un o oreuon y byd, maer casgliad enfawr
o blanhigion, rhai cyfarwydd, llawer yn anarferol, yn rhoi
lliw a diddordeb pa adeg bynnag or tymor y byddwch yno.
Maer ardd hon yn wych yn y gwanwyn gyda rhododendron,
camelias a magnolias godidog. Yn yr haf, ewch am dro o amgylch
y Gerddi Terasog, syn arbennig o liwgar yr adeg honno
or flwyddyn gyda borderi blodau, rhosod, lilir
d_r, clematis a llawer o lwyni a dringwyr wal anarferol. Maer
Eucryphia ar hydrangea yn nodweddion arbennig yn ystod
Awst a Medi, a cheir arddangosfa syfrdanol o liw gan ddail
ac aeron coed a llwynir hydref ym mis Hydref.
Oriel
Luniau:
Cliciwch ar y lluniau isod iw gwneud yn fwy: Bydd y
lluniaun agor mewn ffenestr newydd.
|