Casgliad yw Gerddi Gorau Cymru o’r gerddi gorau yng Nghymru. Mae’n hawdd cael atynt – gall ymwelwyr â Chymru fod yng Nghymru o feysydd awyr Heathrow, Birmingham, Manceinion, Bryste Caerdydd ac Abertawe o fewn dwy awr.

Awgrymiadau’n unig yw’r syniadau am y teithiau a’r llety. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch prisiau, argaeledd ac amserau teithio drwy’r wefan hon.

Am ragor o wybodaeth ar y gerddi ewch i dudalen Y Gerddi ar y safle hon. Am lety ewch i www.welsh.rarebits.co.uk

Y Bore

Dechreuwch eich taith gydag ymweliad â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol gyntaf i agor ym Mhrydain ers 200 mlynedd. Yn gymysgedd diddorol o’r modern a’r traddodiadol, mae Gardd Cymru’n cyfuno adeiladau wedi’u hadfer o gyfnod y Rhaglywiaeth a thiroedd parc hanesyddol gyda datblygiadau newydd mwyaf diweddar. Mae’r T_ Gwydr Mawr, ger ceunant chwe medr o ddyfnder, yn dod â hinsawdd Mor y Canoldir i’r rhan hudolus hwn o orllewin Cymru.

Gallwch gael cinio yn yr Ardd Botaneg Genedlaethol neu mae Aberglasne, yn nyffryn cysgodol Cwm Tywi, o fewn cyrraedd taith fer yn y car. Gallwch fwynhau cinio yno ar y teras wrth edrych dros yr ardd rydych ar fin ymweld â hi.

Prynhawn
Mae’r awyrgylch yn Aberglasne yn hamddenol ac yn anffurfiol. Mae’n un o’r prosiectau adfer gardd mwyaf anhygoel yng ngwledydd Prydain. Cewch eich synnu gan y nodweddion anarferol, yn enwedig yr ardd cloestr Elisabethaidd sydd wedi’i hadfer, a’r daith paraped, yr unig un yng ngwledydd Prydain. Ceir tair gardd gaeedig yn y deg erw o ardd a cheir yno hefyd ardd pwll yn ogystal â’r cyfle i hamddena mewn coedwig sy’n cynnwys llawer o blanhigion prin ac anarferol.

Gyda'r Nos
Teithiwch oddi yma i’r gogledd i ben eich taith am ddiwrnod 2. Bydd gofyn i chi neilltuo o leiaf 3 awr ar gyfer y daith, sydd bennaf ar hyd yr arfordir. Mae’n daith gwerth chweil! Arhoswch dros nos yng Ngwesty Portmeirion, y cyntaf o’r 3 Gwesty Welsh Rarebit a awgrymir yn y teithlyfr hwn. Mae’r moethusrwydd yn cael ei gyfateb gan ysblander y golygfeydd o’r môr ac wrth gwrs, byddwch yn barod ar gyfer eich ymweliad cyntaf yn niwrnod 2.

Y Bore
Yn dilyn brecwast Cymreig ardderchog, bydd eich diwrnod yn cychwyn ym Mhortmeirion, pentref Eidalaidd Clough William-Ellis sydd ar ei benrhyn preifat ei hun yng Ngogledd Cymru. Mae 70 acr o erddi pleser is drofannol Fictorianaidd a choedwigoedd i’w chwilota yn ogystal â chrwydro wrth eich pwysau mewn siopau crefft a rhoddion. Yn fwyaf enwog, Portmeirion oedd lleoliad y gyfres deledu cwlt boblogaidd y 60degau, The Prisoner – mae penodau i’w gweld yn ystafelloedd wely’r gwesty!

Cinio
Cewch damaid o ginio yma cyn teithio i Ynys Môn ac i Blas Newydd, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Y Prynhawn
Saif Plas Newydd, cartref traddodiadol Ardalydd Môn, ar lan Afon Menai a cheir golygfeydd ysblennydd oddi yno o fynyddoedd hardd Eryri. Mae mordeithiau hanesyddol yn rhedeg o’r eiddo, pan fo’r tywydd yn caniatáu, ac mae’n ffordd braf iawn o weld ysblander y t_ cain 18fed ganrif a’r gerddi. Gwnewch yn sïwr fod gennych ddigon o amser i ymweld â’r ystafelloedd te, sydd wedi derbyn gwobr, cyn mynd am dro o gwmpas yr ardd sy’n lliwgar ym mhob tymor.

Am eich ail noson, arhoswch yn yr Olde Bull’s Head, Biwmares, tafarn gyda chymeriad ac yn ddiamheuol yn un o’r lleoedd bwyta gorau yng Ngogledd Cymru.

Y Bore
Taith fer o Fiwmares ac rydych ym Mangor ac ar ymweliad cyntaf y dydd, Castell Penrhyn. Mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda mynyddoedd Eryri’n gefndir syfrdanol iddo a chyda golygfeydd gwych hefyd dros Afon Menai. Ceir nifer fawr o ddigwyddiadau ar gyfer ymwelwyr yng Nghastell Penrhyn yn ystod misoedd yr haf gan gynnwys arddangosfeydd yn dangos celf botaneg. Mae’r ardd ei hunan yn ymestyn dros 40 erw ac yn gymysgedd o erddi ffurfiol traddodiadol gyda thiroedd parc agored a choedwigoedd.

Oddi yma, gyrrwch i dref hanesyddol, Conwy, gyda’i chastell enwog sy’n tra-arglwyddiaethu dros y tirlun. Cinio yng Ngwesty’r Castell sydd ag enw da am fwyd da wedi’i seilio ar ddefnydd crefftus a brwdfrydig o gynnyrch lleol.

Y Prynhawn
Daw ymweliad olaf y daith â chi at un o erddi gorau’r byd, Bodnant. Gyda golygfeydd ar draws y dyffryn tuag at ysblander mynyddoedd Eryri mae ganddi gasgliad lliwgar o blanhigion sydd o ddiddordeb beth bynnag fo’r tymor. Mae’n arbennig o ysblennydd yn y gwanwyn, gyda’r rhododendrons godidog, camelias a magnolias yn sicrhau fod ymwelwyr yn dychwelyd dro ar ôl tro.

I orffen mewn steil, arhoswch yn un o westai gwledig gorau Prydain – Neuadd Bodysgallen. Bydd bwyd da, gwin ac ychydig o faldod yn eich hwylio ar gyfer eich taith gartref.

   
   
   
Y Gerddi Digwyddiadau Teithiau Archebu Cysylltiadau Adran Masnach