Casgliad yw Gerddi Gorau Cymru o’r gerddi gorau yng Nghymru. Mae’n hawdd cael atynt – gall ymwelwyr â Chymru fod yng Nghymru o feysydd awyr Heathrow, Birmingham, Manceinion, Bryste Caerdydd ac Abertawe o fewn dwy awr.

Awgrymiadau’n unig yw’r syniadau am y teithiau a’r llety. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch prisiau, argaeledd ac amserau teithio drwy’r wefan hon.

Am ragor o wybodaeth ar y gerddi ewch i dudalen Y Gerddi ar y safle hon. Am lety ewch i www.welsh.rarebits.co.uk

Y Bore
Mae’r daith hon yn cychwyn yn un o’r amgueddfeydd awyr agored gorau yn Ewrop, sydd mewn 100 acer o gefn gwlad godidog. Dim ond rhai munudau o draffordd yr M4 yw Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ac mae hefyd yn atyniad garddwriaethol ysbrydoledig. O erddi ffurfiol y dosbarth breintiedig i’r ardd organig gyntaf i gynnal teulu dosbarth gweithiol a oedd yn tyfu, mae’r Amgueddfa Werin y cynnig golwg unigryw ar hanes cymdeithasol. Adnewyddwyd yr Ardd Eidalaidd yn ystod haf 2002.


Gellir mwynhau cinio yn yr Amgueddfa cyn gyrru am 15 munud i Erddi Dyffryn am y prynhawn.

Y Prynhawn
Mae Gerddi Dyffryn yn cael eu hadnewyddu i’w hysblander Edwardaidd ar hyn o bryd gan ymfalchïo yn yr aboretum helaeth, lawntiau ffurfiol ysblennydd a’r ystafelloedd gerddi gan gynnwys yr ardd Pompeii unigryw. Cynhelir llawer o ddigwyddiadau drwy’r flwyddyn, yn amrywio o arddangosfa Bonsai a sgyrsiau rhanbarthol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol i gynnal perfformiadau cerddoriaeth a theatr yn y gerddi. Cyn teithio i’ch llety dros nos, arhoswch am baned yn yr ystafelloedd te a chymryd un olwg olaf o amgylch – y tro nesaf y dewch yno bydd yn edrych yn dra gwahanol!

Byddwch yn treulio *** awr bleserus i gyrraedd eich llety, gan deithio drwy olygfeydd cofiadwy. Y Lake Country House yn Llagamarch yw’r cyntaf o 3 gwesty Welsh Rarebits a awgrymir ar eich cyfer. Mae gan y gwesty hwn enw o fod yn cynnig y bywyd gwledig ar ei orau.

Y Bore
Bydd y daith o Langamarch i Gastell Powys yn y Trallwng yn cymeryd tuag awr o amser. Yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae gan Gastell Powys raglen lawn o ddigwyddiadau sydd o ddiddordeb i bawb. Gellir prynu planhigion arbennig a diddorol yn y Ffair Blanhigion Wanwyn ym mis Mai ac yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf gallwch ’gyfarfod â’r garddwr’ am daith hynod ddiddorol o amgylch y gerddi. Ceir yno raglen lawn o ddigwyddiadau theatrig a cherddorol awyr agored hefyd. Gallwch gael cinio ysgafn yn yr ystafelloedd te cyn cychwyn ar eich taith am y prynhawn.

Mae eich ymweliad am y prynhawn tua 40 munud i ffwrdd.

Y Prynhawn
Mae’r golygfeydd o Gastell y Waun, ger Wrecsam, yn ymestyn mor bell â Swydd Gaer a Swydd Amwythig ac mae ar safle 5 _ acer o brydferthwch bryniog. Mae’r ddigwyddiadau, a gynhelir gydol y flwyddyn, yn tanlinellu prydferthwch y gerddi, gan gynnwys ‘Penwythnosau’r Eirlysiau’ ym mis Chwefror. Mae yno enghreifftiau gwych o docwaith ywen o’r 19eg ganrif ac mae’r gerddi’n gyforiog o rododendron aeddfed a rhosynnau gyda phersawr llesmeiriol.


Dim ond taith fer sydd i’ch llety am yr ail noson, yn Bodidris Hall, ty^ godidog yn y dull barwnig. Mae mewn man cyfleus ar gyfer eich ymweliad olaf ar y daith.

Eiddo’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam yw Erddig ac mae’n gartref teuluol unigryw sydd wedi cadw ffordd o fyw cartref prysur o ddechrau’r 1900au. Mae’r ardd gaeedig yn un o’r rhai pwysicaf yng ngwledydd Prydain i oroesi o’r 18fed ganrif a cheir yno goed ffrwythau prin, camlas a phwll ac yno hefyd mae’r Casgliad Iorwg Cenedlaethol. Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau’n cynnwys cyrsiau ar blygu gwrych a gwneud llidiart dderw a gw^yl afalau ym mis Hydref.

 

   
   
   
Y Gerddi Digwyddiadau Teithiau Archebu Cysylltiadau Adran Masnach