Ceir gwybodaeth unigryw a chyfredol yn yr Adran Fasnach ar gyfer y Fasnach Deithio a Threfnwyr Grwpiau gan gynnwys Cymdeithasau Garddwriaethol, Ysgolion a Cholegau.


I gymryd mantais o’n cynigion ar gyfer grwpiau dylech Cofrestru. Mae hyn o gymorth i ni sicrhau fod yr wybodaeth yr ydym yn ei darparu yn dal o werth gwirioneddol i’n hymwelwyr.

 

Mae Cymru, ar lannau gorllewinol Prydain, yn wlad werdd, ei thywydd mwyn dan ddylanwad Llif y Gwlff. Mae’r wlad i gyd yn llwyfan ardderchog i’r Gerddi Gorau. Dathlwyd harddwch tirwedd Cymru gan feirdd, artistiaid a llenorion am ganrifoedd. Wrth deithio o’r de i’r gogledd, o’r dwyrain i’r gorllewin, fe welwch wlad o fryniau gwyrdd esmwyth, mynyddoedd ysgythrog a dyffrynnoedd coediog heb ddim o olion ‘hacrwch cynnydd’ na thraul amser.


Mae Cymru’n gyforiog o harddwch natur, o elltydd môr Sir Benfro yn y de orllewin, ar draws lynnoedd a gweundir y canolbarth hyd at fynyddoedd Eryri yn y gogledd. Mae tri o barciau cenedlaethol gwledydd Prydain yma. Ceir dim llai na phum Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a safleoedd dirifedi sy’n cael eu hamddiffyn oherwydd eu fflora a’u ffawna amhrisiadwy.


Ac, fel bonws, ynghanol y tirlun eithriadol hwn, mae’r Gerddi Gorau.