Ty^ Leri, Talybont, Ceredigion SY24 5ER
Ffôn: +44 (0) 1970 832268
E-bost: historicgardenswales@hotmail.com


Digwyddiadau Arbennig:
Ymweliadau â’r gerddi, dyddiau astudio ar gyfer Aelodau’r Ymddiriedolaeth.
Cyhoeddiad:
Canllaw i Erddi a Pharciau Hanesyddol Cymru. Llyfryn yn rhad ac am ddim ar gael oddi wrth Fwrdd Croeso Cymru neu Ros Laidlaw.

 



Mae Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru yn ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd i annog gwerthfawrogiad o’r cyfoeth ac amrywiaeth a geir ym mharciau a gerddi hanesyddol Cymru, gyda’r goreuon yn ymddangos ar y wefan hon. Gellir gweld llawer mwy yn y Canllaw i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cymru a gyhoeddir gan yr Ymddiriedolaeth sydd â’r holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer yr ymwelydd.

Gosododd y gwaith o ddarganfod, amddiffyn ac adfer llawer o erddi a thirluniau hanesyddol yr Ymddiriedolaeth mewn safle ardderchog i ddarparu gwasanaethau arbenigol i drefnwyr teithiau gan gynnwys:

Mynediad i barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru, gan gynnwys llawer nad ydynt fel arfer ar agor i’r cyhoedd
Cyngor ar deithiau ac yn fwy arbennig ar ba erddi sy’n addas ar gyfer teithiau arbenigol o erddi hanesyddol
Mynediad at arbenigwyr ar hanes gerddi sy’n gallu gweithio fel tywyswyr a darlithwyr
Dewiswch ardd i’w gweld:
1 Aberglasne l 2 Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru l 3 Gerddi Dyffryn l 4 Amgueddfa Werin Cymru l 5 Gerddi Bodnant l 6 Castell Penrhyn l 7 Plas Newydd l 8 Erddig l 9 Castell y Waun l 10 Castell Powys l 11 Portmeirion